Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/20

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Pan yn alltud pell, a'i uchelgais wedi troi'n anobaith, a phan yn hiraethu am y fam allasai leddfu peth oi gur, dywed ran o hanes yr ymddieithriad yn ei gân, "Fy Mam."

Yr oedd y byd yn gwasgu ar yr amaethwr, druan. Yr oedd wedi benthyca arian i fynd i Lwyn Gloddaeth, nid oedd eí lafur yn dod ag ennill iddo, aeth yn dlawd yn onest; a gorfod iddo droi ei gefn, a'i galon ar dorri, ar y lle yr oedd pob gobaith yn y byd hwn wedi angori wrtho. Nid oedd ing meddwl Robert Owen yn llai nag ing meddwl ei dad. Aethant yn ol i'r Abermaw i fyw, a nod bywyd y bachgen yn awr oedd ennill digon i roddi ei dad yn ol. Ddeng mlynedd i ddiwrnod marw ei dad, yr oedd Robert Owen yn Awstralia yn meddwl am dano.

"Ddeng mlynedd i heddyw," meddai, "bu farw fy nhad. Duw yn unig ŵyr faint o honof fi fu farw gydag ef. Wrth edrych yn ol, gwelaf mai colli fy nhad oedd colled fwyaf fy mywyd i. Cyn ei farw, yr oedd gennyf ddymuniad goruchel. Nis gallaf ddweyd wrthych mor gryf ydoedd, mor ddidor y canlynai fi ddydd a nos, gymaint ddioddefais yn ddistaw er ei fwyn. Yr oeddwn wedi gweled fy nhad yn gorfod ymadael â'r tyddyn bychan garai mor fawr, ac yn dod yn labrwr cyffredin; ond, cyn pen ychydig flynyddoedd, yr oeddwn am ei roddi ar dyddyn gwell, na fuasai raid iddo ei adael byth, byth tra'n fyw, byth. Ni chai fy nhad ddioddef eisiau tra y medrwn i ennill dim. Bwytaodd y pwrpas hwn i'm henaid fel gwallgofrwydd. Gwasgwn fy nannedd, cauwn fy nyrnau mewn digllonedd, wrth ddychmygu fod neb yn ameu fy mwriad." Ac