Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yna doi'r dagrau wrth gofio mor hapus fu yn Llwyn Gloddaeth; ac wrth feddwl nas gallai unlle byth fod fel yr hen.

Yn haf 1874 yr oedd y tad yn gweithio yn y Sylfaen, ac yn dod adref ar nos Sadyrnau. Codai Robert Owen bedwar o'r gloch y bore i astudio; a rhyw fore Llun gadawodd ei Caesar ac aeth gyda'i dad i gyfeiriad ei hen gartref. Aethant trwy'r Abermaw cyn i neb godi; a gwelai'r bachgen, oddiwrth wyneb gwelw ei dad, fod rhyw ofid yn ei lethu. Wrth basio Ty'n y Maes, cyfeiriodd y tad at ryw welliantau oedd yn feddwl wneyd pe cawsai aros yn Llwyn Gloddaeth; ac aeth ei wyneb yn bruddach fyth wrth son am y tyddyn.

"O nhad," ebe'r bachgen, "peidiwch rhoi'ch calon i lawr fel yna, peidiwch yn wir. Yr ydach chi yn sicr o gael gweld dyddiau gwell eto, gwell o lawer. Os cai fyw, nhad, mi fynna' i'ch gweld chwi eto yn feistr arnoch eich hun, mewn ffarm gystal a Llwyn Gloddaeth beth bynnag." Yr oedd llais y bachgen yn crynnu, a'i lygaid yn wlybion.

"Byth, Bob, byth," oedd unig ateb y tad.

Trodd y bachgen yn ol, at ei lyfrau. Yr oedd yr haul erbyn hynny wedi codi ar olygfa ardderchocaf Cymru, a'r bore'n rhyfeddol hyfryd, ond dan wylo y daeth Robert Owen adre. Ymhen mis neu ddau daeth ei dad adref wedyn, yn wael, a gwelodd ei fab ystyr y geiriau "Byth, Bob, byth."

Ond ni chollodd y tad o feddwl Robert Owen. O'r adeg y dringai ei lin hyd y dydd y clywodd gnul cloch Llanaber, yr oedd o hyd mewn dychymyg yn ail fyw hen fywyd ei blentyndod.