Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/30

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chyn darllen llinell o'i waith. Wedi dod i gydnabyddiaeth ag ef trwy rai o'i ganeuon, ac wedi ceisio deall ei fywyd, daeth yr Abermaw a swn y môr yn fwy i mi nag erioed. A chan feddwl i ereill ddal mwy o sylw ar brydferthwch rhyfedd afon Mawddach a'r Abermaw, gan feddwl am i eraill glustfeinio ar swn y môr, yr ysgrifennais yr hanes hwn.

Neges fawr bardd ydyw rhoddi ym mywyd dyn heddwch na feddai o'r blaen. Yn araf deg, y mae'r awen yn gwneyd heddwch rhwng Duw a dyn, rhwng dyn a dyn, rhwng dyn a natur. Y mynydd, yr anialwch, y môr, y dymhestl, y nos, bu y rhai hyn yn elynion ac yn ddychryn i ddyn. Ond y mae bardd, rhyw Wordsworth neu Islwyn, yn ein dwyn i'w heddwch o hyd. Y mae mawredd y mynyddoedd, ehangderau'r anialwch, swn y môr, godidowgrwydd y dymhestl, a thlysni gwylaidd y nos, y maent oll wedi colli eu dychryn i ni erbyn hyn, ac y mae cariad wedi bwrw allan ofn wasgai'n ingol ar eneidiau ein cyndadau.

Ymysg y beirdd cymwynasgar hyn rhaid rhoddi Robert Owen. Wrth ymhyfrydu yn swn y môr ei hun dysgodd ereill i wrando arno, a gadawodd fwy o heddwch yn y byd nag a gafodd.

Y mae ei ganeuon, lawer o honynt, yn anorffenedig. Pe cawsai fyw, y mae'n ddiameu y perffeithiasai lawer llinell; ond gwnaeth angau iddo eu gadael fel yr ysgrifenasai hwynt mewn llythyr neu ddyddlyfr. Heddwch iddo; caffed dragwyddoldeb i sylweddoli ei obeithion ffurfiwyd yn swn y môr.