Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/29

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ar derfyn y daith fer, ond blin a thymhestlog, cofia gymaint o'i feddwl gymerai Llwyn Gloddaeth a gwrthrych ei gariad cudd. Am danynt hwy yr hiraethai'n angerddol, drwyddynt hwy y gwelai'r pur a'r ysbrydol. Tybed, yn ymyl tragwyddoldeb, ei fod wedi bod o'r ddaear yn rhy ddaearol? Ac yna esgyn gweddi olaf yr enaid ieuanc cystuddiedig prydferth,—

"O fy Nuw, fy Nhad, fy nghyfaill,
Ti sy'n gwybod holl ddirgelion
Calon dyn a'i fawr ddiffygion,
Maddeu imi am anghofio
Serch dy ofal am dy blentyn
Drwg anufudd, derbyn angerdd
Fy ymroddiad i un arall
Fu i mi yn lle dwyfoldeb,
Megis pe i ti ei telid."

Y mae afon Mawddach eto'n aros, "fel harddwch mewn breuddwyd." Wrth ei dilyn hi y gwelais i'r môr gyntaf erioed. Lle rhyfedd oedd yr Abermaw i ddychymyg plentyn o'r mynyddoedd, gyda'i dywod, ei gregin a'u cyfrinion, ei greigiau rhamantus, a swn y môr. Arhosai y swn hwnnw yn fy nghlustiau, a thybiwn ei fod yn llawn o ryw gyfrinion, o ryw wybodaeth na ddeallwn ei hiaith. Dwyshaodd a dyfnhaodd fy meddyliau; yr oedd fel cylch o ddieithrwch, y swn dwfn hwnnw, o amgylch fy syniadau terfynedig, yn fy nhemtio'n barhaus i edrych ymhellach. Carwn swn yr aberoedd fel o'r blaen; ond, wedi clywed swn y môr, tybiwn fod trefn ar amrywiaeth eu miwsig. Teimlwn fod swn y môr a'i ofnau o'm cwmpas, fel tragwyddoldeb o gylch fy mywyd, yn derbyn pob swn arall ac yn rhoi ystyr iddo.

Yr oedd hyn cyn clywed am Robert Owen, a