Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/28

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

poethwynt sydd wedi crwydro dros anialdiroedd tywod!" Diflannodd ei atal dweyd; yr oedd yn athraw profedig erbyn hyn, ac yn dyheu am ychwaneg o waith. A'r cariad cudd hwnnw,— troai fyd y darfodedigaeth yn nefoedd yn ei ddychymyg.

Ond syllodd i'r dyfnderoedd drachefn. Aeth ei feddyliau drachefn at y marw. Cofiodd ei dad,— gwelai ef yn berffaith. "A fy mam, O fy anwyl fam, mor wahanol, mor wahanol fuasai pe buaset yn fyw, a chyda dy fab gwael?" Bu dieithriaid mor garedig a chwaer a mam iddo hyd Hydref 23, 1885, pan orffwysodd ar y breichiau tragwyddol.

Llwyn Gloddaeth a gwrthrych ei gariad cudd oedd yn ei feddwl hyd y diwedd. Wrth ddarlunio'r cariad hwnnw, y mae yn ei gân weithiau adlais o awen Iddewig Heine,—

"Dyfnaf yr eigion man,
Glasaf ei donnau ban,
Tecaf ei arliw pan
Bella'i waelodion;
Felly arddengys lliw
Dulas ei llygaid gwiw
Ddyfnder serchiadau byw,
Ddyfnder ei chalon."

Nid yn ei ieuenctid yn unig y cafodd y cwmni hanner greodd ei ddychymyg ei hun,—

"Mae dy wedd fel gwyneb angel
Yn ymwthio ger fy llygaid.
Ac yn gwneyd i'm calon lamu
Eto unwaith, fel yn nyddiau
Ein plentyndod. O dy lygaid
Du a disglaer disgyn arnaf,
Megis awen dy brydferthwch,
Megis adladd y breuddwydion
A'r gobeithion a ymwëent
Gynt oddeutu twf dy swynion."