Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn ystod y fordaith gweithiai, myfyriai, breuddwydiai; ac er mor debyg oedd y môr ddydd ar ol dydd, gwnaeth ei awel hallt ac iach les mawr i iechyd yr alltud. Mawrth 29. 1879, yr oedd ei long y tu allan i Benrhyn Gobaith Da, ac ysgrifennodd ei lythyr, "At fy Nheulu."

Nid oedd ganddo gyfeillion ar y llong, ar yfed a bwyta yr oedd bryd ei gymdeithion. Mewn unigrwydd yr oedd, yn edrych dros y llong ar y tonnau a'r ser. Daeth adgofion plentyndod yn unigedd y môr,—am y bryniau a'r corsydd yn su môr y Bermo; a rhoddodd hwy mewn cân fydd byw yn hir, "At Owen."

Cyrhaeddodd Melbourne y seithfed o Ebrill, 1879, yn llonnach ac iachach nag y meiddiasai ddisgwyl bod. Cafodd gyfeillion caredig yno, hoffodd erddi y ddinas dlos, a dywedodd y meddyg y gallai fyw. Gwenai'r haul yn dlws ar goedydd gwyrddion; yr oedd bachgen a geneth, ar fin priodi, yn rhodio mewn dedwyddwch perffaith, adeg na ddaw ond unwaith mewn oes, a thaflodd eu hapusrwydd adlewyrch ar fywyd yr alltud unig. Cafodd le fel athraw gyda theulu o Wyddelod calon-gynnes, oedd yn byw ar fferm Mullagh, ger Harrow, Victoria; a buan iawn yr aeth ef a'r teulu i serch eu gilydd. Bu'n hapus iawn yno,—yn darlunio beth oedd eira i'r plant, yn eu dysgu, yn cyd-chwareu â hwy, yn breuddwydio am Lwyn Gloddaeth a'r Bermo, yn hela'r kangaroo a'r wningen, yn edrych ar y pren almon yn blodeuo. Weithiau daw hiraeth angerddol am Gymru ato. "O am anadlu'r awel oer iach fyddai'n dod dros y môr pan oedd yr haul newydd fachlud dros fynydd yr Eifl, yn lle'r