Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/26

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dim yn fwy wrth ei fodd yntau na chael y plant i'w ystafell, i roddi gwledd o ddanteithion ac ystraeon iddynt. Yr oedd meddwl am ei chwiorydd wedi rhoddi gallu iddo ddeall calon plentyn. Ym Mirmingham yr ysgrifennoddY Ffordd i Baradwys."

Tawelodd ei feddwl. Cafodd ei galon serchog foddhad wrth weled a theimlo cariad y rhai a'i hamgylchynai. Ysgrifennai lythyrau, crynhoai ei serch at ei frawd a'i chwiorydd, yr oedd yr eneth honno'n ymberffeithio yn ei ddychymyg, canai ambell i gân leddf.

Nid peth hawdd oedd marw'n ugain oed. Daeth hiraeth angerddol am y Bermo, daeth awydd am fyw. "Ni bum ddiwrnod yn iach wedi gadael Llwyn Gloddaeth,"—os oedd trallod wedi ei wneyd yn afiach, oni fedrai gobaith ei wneyd yn iach? Edrychodd o gwmpas ei ystafell fechan, a gwelodd lyfrau,—cymdeithion mwyn,— ar y bwrdd a'r cadeiriau a'r llawr. Yr oedd y byd yn dlws eto, yr oedd gwaith iddo eto,—ni fedrai fynd adre i farw. Penderfynodd fynd i'r ysbyty yn Llundain. Ar ddiwrnod oer clir ym mis Tachwedd gadawodd ei ysgol, ac aeth i Chelsea. Ar y ffordd holodd rhyw hen foneddiges ei hanes, a rhoddodd hanner sofren yn ei law wrth ymadael. Golwg brudd gafodd ar yr ysbyty,— llu o bobl wan yn pesychu ac yn disgwyl eu tro i fynd at y meddyg. Daeth ei awydd am fyw'n gryfach. Penderfynodd groesi'r môr, fel cynifer, a gweithio weddill ei ddyddiau yno.

Ar y môr, cafodd hamdden, fel yr ehedydd yn y gwanwyn neu'r eos yn y nos, i dywallt ei deimlad mewn cân, "Ar y môr."