Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oddiyno i Bourne College, Birmingham. Ei gynllun oedd ennill digon i gadw ei chwiorydd, a gweithio am ei radd yn Llundain ar yr un pryd. Yr oedd goleuni ar ei fywyd eto, a gwyddai am rai'n credu ynddo ac yn ei garu.

Yn Hydref, 1878, cafodd un o'r rhain newydd prudd oddiwrtho. Yr oedd y pryder a'r lludded wedi gwneyd eu hol arno. "A fedrwch gredu," gofynna, fod eich hen gyfaill yn barod yng ngafael y darfodedigaeth, ac nad yw'n debyg o fyw mwy na blwyddyn, feallai ddim mwy na chwe mis?" Dywedodd dau feddyg yr un ystori anobeithiol wrtho, gan ddweyd y byddai raid iddo roddi ei waith i fyny a mynd adre i farw. Yr oedd yn ymostyngar, "ond y mae'n arw gennyf fod yn rhaid i'm bywyd ddod i'r pen cyn i mi orffen fy nghynlluniau bychain dros fy mrawd a'm chwiorydd. Yr oeddynt hwy i fynd i'r ysgol i Ddolgellau, a'm brawd i barotoi at y weinidogaeth. Yr oeddwn wedi gyrru peth arian iddo, a siwt o ddillad. Wrth feddwl mor ddiamddiffyn fyddant hwy, yr wyf wedi wylo nes bron dorri fy nghalon. Nid wyf yn galaru am fy nhynged fy hun, y mae bywyd wedi colli ei swyn i mi. Y mae fel anialwch oer i mi, heb lwybr, heb gydymaith, heb flodeuyn; dim ond blynyddoedd blin o lafur a thrallod, yn ymestyn fel ionnau o dywod yn y diffaethwch, a marw anocheladwy y tu hwnt."

Cafodd gydymdeimlad serchog Cymry caredig Birmingham, ac yr oedd ganddo le dwfn yn serch pawb gyfarfyddasai. Yr oedd y plant, yr athrawon, a'r gweision yn cystadlu â'u gilydd i ddangos eu caredigrwydd tuag ato. Nid oedd