Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/24

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn yr ysgrifennydd hwn; yr oedd yn rhy ieuanc. Darllennai draethodau Macaulay drosodd a throsodd, a chyfieithiodd y traethawd ar Bunyan. Swynid ei feddwl gan Shakespeare, yn enwedig gan y cymeriadau pwysicaf,—Macbeth, Lear, Othello. Ond tybiai fod un bardd mwy na Shakespeare, a hwnnw oedd Milton. Yr oedd ei edmygedd o Milton yn ymylu ar addoliad. Rhoddodd ddeuswllt unwaith am Lives of the Poets Johnson; a beth a gafodd am ei arian drud ond ymosodiad rhagfarnllyd yr hen ddoethawr cibddall ar ei hoff fardd. Cred frwdfrydig Milton mewn rhinwedd, ac yn nhragwyddol anibyniaeth y meddwl pur, oedd yn apelio ato,—

"Virtue may be assailed, but never hurt;
Surprised by unjust force, but not enthralled;
Yea, even that which mischief meant most harm
Shall, in the happy trial, prove most glory;
But evil on itself shall back recoil,
And mix no more with goodness."

Ond daeth swn cloch y llan i dorri ar ei fyfyrdod. Collodd ei dad, ac yr oedd gofal ei fam a'i frawd a'i ddwy chwaer fach arno ef. Bu ei fam farw hefyd, a daeth pryder i chwerwi ei lafur. Nid ei ddyfodol ei hun yn unig oedd ei faich, ond bywyd ei anwyliaid amddifad.

Ond nid ymroddi i anobaith wnaeth y bachgen dewr. Dywed ei hanes yn danfon ei frawd Owen i ben rhiw'r Gorllwyn, fel yr oedd y ddau'n penderfynu amddiffyn eu dwy chwaer fach; ac yno, wedi gadael ei frawd, penderfynodd roddi ei fywyd i'w frawd a'i chwiorydd. Yr oedd y ffordd i goleg Bangor yn glir iddo, ond aberthodd hynny er eu mwyn hwy. Aeth yn is-athraw i Jasper House, Aberystwyth, am ychydig; ac