Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/23

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Y morfa a'i aml dwmpath,
O for-hesg a blethem ni gynt,
Y tywod yn fil o domennydd
Amrylun wrth fympwy y gwynt,-
A'r Môr, yr hen For, fy addysgydd
Yn blentyn, a'm cyfaill yn hyn,
Y Môr, mor ddynol-newidiol,
Ac eto mor ddwyfol yr un."

Gwnaeth y bachgen athraw campus. Yr oedd yn hoff o blant, ac yn bryderus iawn am danynt. Darllennai lawer am danynt, ac ysgrifennai eu hanes yn ei ddyddiadur. Gweithiai a'i holl egni. Codai'n fore; weithiau ni chysgai ond awr; bywiai'n galed. Enillai ychydig at brynnu llyfrau wrth gasglu arian dros ryw gwmni yswiriol ac ysgrifennu llythyrau. Yn yr Ysgol Sul, fel yn yr ysgol ddyddiol, yr oedd ei ymroddiad yn ddiderfyn; dysgai pob aelod o'i ddosbarth lawer iawn o adnodau, dysgai yntau fwy na'r cwbl gyda'u gilydd. Taflodd Ffrancwr dysgedig o rywle i'r Bermo, y mae wedi ei gladdu yno yn y graig, fel Chateaubriand; dysgodd hwnnw bedair iaith iddo,—Ffrancaeg, Almaeneg, Ysbaeneg, ac Eidaleg.

Mwynhai bregethau'r Sabbath, ysgrifennai grynhodeb ohonynt, a beirniadai hwy'n llym. "Yr wyf yn cael rhyw bleser yn y seiat," ebai, "nas gallaf gael yn unlle arall." Pan yn fachgen unarbymtheg oed, clywodd Mynyddog yn canu, a hoffodd ef yn fawr. Darllennodd ganeuon cyntaf Ceiriog, ac ni welodd ddim ynddynt ; er hynny yr oedd yn hoff o symlder gonest a naws delynegol Burns. Edmygai Carlyle, ond nid oedd yn ei hoffi; fel rhyw ddelw farmor arw fawreddog yr ystyriai ef. Ni welodd yr hoffder at orthrwm digydymdeimlad, a'r rhagrith, sydd