Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/22

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dair blynedd wedi marw ei dad y mae ei hiraeth cyn gryfed ag erioed,-yn ei gân, "Fy Nhad, fy anwyl Dad."

Bum ar bererindod yng nghyffiniau Llwyn Gloddaeth. Saif i fyny ar y bryniau sy'n codi o lan afon Maw. Oddiyno ceir golygfeydd nad eu harddach yng Nghymru, os yn y byd. Lle gwael i godi ymborth sydd ar y bryniau creigiog a grugog hynny; y mae caeau gwenith a phytatws yr amaethwyr yn ymestyn, ym mhob ffurf, rhwng crugiau o gerrig a thwmpathau drain. Synna'r dieithr pa fodd y medrasant arloesi lleoedd felly, os nad à fforch; na'u medi, os nad â siswrn. Ond nid ar fara'n unig y bydd byw dyn. Nid yw'r eithin yn felynach yn unlle, na'r grug yn gochach; y mae natur yn gwisgo'r mynyddoedd ag ysblander o felyn a choch na welodd dychymyg bardd eu prydferthach. A'r mynyddoedd mawr, y Gader a'r Aran, safant yn ddifrif-ddwys draw-a'u gwisg niwl yn newid yn amlach na hyd yn oed ffasiynau'r ddaear. Ac odditanodd clywir su'r môr, nid rhu bygythiol, ond su esmwyth Sabbothol. Yma deffrodd awen Robert Owen, a dechreuodd ganu cân, ond daeth angeu cyn iddo gyrraedd yr amen. Yn honno, mewn dull difyr, darlunia ei hun yn mynd

"Am dro yng ngwyleidd-dra y wawrddydd,
Neu ddifrifwch gosteg yr hwyr,
Hyd fynydd a glyn a choedwig,
Ac unig lennydd y dŵr."

I geisio ymgydnabod â'r awen aeth i ben y Llywllech i weld toriad gwawr, ac i weled a ddeuai'r dduwies gyda hi. Wedi'r bore hwnnw, yr oedd pob peth adnabyddai gynt wedi ennill ystyr newydd,—