Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/36

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

I MARY.

MARY anwyl! fel mae nghalon,
Yn dyheu am danat ti ;
Am dy wenau, am dy eiriau,
S'yn arogli hedd i mi.
Pan yng nghwsg, parhaus ymrithio.
Wna dy ddelw i fy mryd,
A phan yn effro, ymgymysgu
Mae a'm serch-feddyliau i gyd.

Nid wyf am wenieithio iti,
Nid wyf am ddywedyd fod
Lliw dy ruddiau fel y rhosyn,
Nac fel cannaid liw yr ôd,
Nid yw tegwch ond yr enfys
Sydd am funud yn boddhau,
Wedyn cilia, ni adawa
Ond ei adgof i'n tristau.

Gwell na thegwch gwedd yw gennyf
Dlysni meddwl, glendid bron,
Calon bur, addfwynder ysbryd,
Llygaid duon hawddgar llon;
Dyma bethau nad yw amser
Ond cynhyddu eu hudol rym;
Dyma bethau, Mary serchog,
Sydd yn dy anwylo i'm.

Dan ddylanwad swyn dy lygad,
Yn dy gwmni fin y nos
Gynted yr ehedai drosof
Hafaidd oriau boreu oes!
Cryfder cydymdeimlad calon
S'yn fy ngwasgu at dy fron,
Sydd yn gwneyd yn wael wrthrychau
Eraill bethau'r ddaear hon.1875