Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/37

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

TRIGFAN YR AWEN.

PAN oeddwn yn llencyn difarf
Heb eto weled y byd,
'Roedd ynnof ryw awydd mynnu
Mewn rhywbeth ragori ryw bryd.
Wrth gwrs, nid oedd fy nymuniad
Er cryfed ei ruthr bryd hyn,
Ond fel afon i lwyr ymgolli
Yn nhywod siomiant syn.

Modd bynnag, credwn eto
Fod bywyd yr un â'i wedd,
A phell o fy nghalon oedd meddwl
Am ofid, na blinder, na bedd;
Gwell gennyf o lawer oedd meddwl
Am bethau mwy hudol a hardd,
Ac o bopeth, yr hoffaf beth gennyf
Oedd meddwl am ddyfod yn Fardd.

Dywedais fy meddwl wrth amryw,
Ond prin y gefnogaeth a ges,
Am hwyrach, fod gormod o "Hunan"
O'm cwmpas neu ormod o wres
Yn fy awydd, neu am fod braidd ormod
O "Hunan" mewn eraill can's pwy
Heb wenwyn all weled glashogyn
Yn ymgais yn amgen na hwy?

Ond wedi ymholi dygyn
Ces allan, er dyfod yn Fardd,
Bod rhaid gwneyd cyfeilles,—neu gariad
Os posib, o'r Awen hardd;
Ac mai peth anhawdd ryfeddol
Yw dyfod o hyd iddi'n awr,
Gan mor 'chydig a wyddant yr adeg
A'r mannau yr ymwel â'r llawr.