Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/38

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ond fe'm hysbyswyd gan rywun
O'r diwedd y bydd pob ffrynd
I'r Awen, a phob ymgeisydd
Am ei chyfeillach, yn mynd
Am dro yng ngwyleidd-dra y wawr-ddydd
Neu ddifrifwch gosteg yr hwyr,
Hyd fynydd, a glyn, a choedwig,
Ac unig lennydd y dŵr.

Gan hynny fe benderfynais
Heb golli dim amser yr awn
I chwilio am y peth anwyl
Y cyfle cyntaf a gawn.
'Roedd gennyf gryn lawer o hyder
Fel llanciau'n gyffredin) y gwnawn,
Ond cael pwt o sgwrs efo'r feinwen,
Bopeth cydrhyngom yn iawn.

Felly ryw ddiwrnod cychwynnais
Rai oriau cyn toriad y wawr,
Am gopa y Llywllech i weled
A ddeuai y Dduwies i lawr;
Wrth ddringo llethrau y mynydd
Ces aml i godwm go gas,
A'm dychryn ddwy waith gan hen ddafad
Ac unwaith gan dwrr o wellt glas.

Be' waeth? Onid tâl am bob dychryn,
Am fil o godymau f'ai cael
Pwt o sgwrs hefo'r Awen, tra natur
Yn dweyd "boreu da" wrth yr haul?
'Nol cyrraedd i ben y mynydd,
Gwelais o'r glynnoedd islaw
Gysgodion y nos yn dianc,
A'r ser yn ymguddio draw.