Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/39

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y cymyl ar hyn ddechreuasant
A gwrido, fel gruddiau merch
Wylaidd, pan am y tro cyntaf
Y mud-gyfaddef ei serch.
Ac yna dros ysgwydd y 'Rennig
Mewn gwisg o fawrhydi a hedd.
Gydag urddas balch hamddenol
Dadlennodd yr haul ei wedd.

Pob hawddgarwch Anian ymdrwsiai
Yn awr â chywreinrwydd merch,
Oll fel pe'n cystadlu â'u gilydd
Am gyfran o'm sylw a'm serch—
O Anian, paham ymwisgi
Mor wyched er boddio ond dyn,
Nad yw ond dy blentyn byrhoedlog
A brawd i'r glas-welltyn ei hun!

Ar ogledd, a dehau, a dwyrain,
Mynydd ar fynydd ei ben
A ddyrchai fel aruthr fyddin
O gewri, yn bwgwth y nen;
A thua gwlad Arfon, disgleiriai
Y môr megis arian-ddrych,
A'i wedd fel gwedd baban yn cysgu
Mor ddiddig, mor ddi-grych.

Gerllaw, tywyll-lynnau'n ymlechu
Yn esmwyth is dannedd y graig,
Mân ffrydiau yn trystiog brysuro
I'w cartref ym mynwes yr aig;
Y Mawddach fel harddwch mewn breuddwyd,
Gwastadedd, a dyffryn, a glyn,
Llwyni, a meusydd, a chnydau,
A defaid yn britho pob bryn—