Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/40

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Wyllt Walia! Wlad anwyl fy Nhadau !
Pa wlad mor deg a thydi?
Pa ffrydiau mor loewon? Pa rianod
Mor serchus a'r eiddot ti?
O Walia, mae calon dy blentyn,
Gan hiraeth ar dorri yn ddwy
Wrth gofio na chaiff ei lygaid
Ar dy degwch syllu byth mwy.

Bron iawn na chollais yn hollol
Fy neges yn llif y mwynhad,
Ond 'rol im ddod ataf fy hunan
Yn siomiant y trodd fy moddhad;
Rhaid bellach oedd cau fy llygaid
Ar anian a'i gwridog swyn,
Ac a'm dwylaw ymhleth ddisgwyl
Dyfodiad yr Awen fwyn.

Disgwyliais mewn pryder am ddwyawr,
Ond disgwyl fu'r cwbl a ges,
Heblaw ceisio credu mai siomiant
Oedd oreu'r tro hwn ar fy lles,
Ond druan o'm pwt o athroniaeth—
Daeth cawod o wlaw, a bu raid
Iddi ddianc i ffwrdd gan fy ngadael
Hyd bennau fy ngliniau mewn llaid.

Ond ni fynnwn ddigalonni
Serch unwaith fethu fy nod—
Can's creadur go g'lonnog fel rheol
Yw llanc dwy ar bymtheg oed—
Felly ymhen rhai dyddiau
Cyfeiriais fy nghamrau 'r ail waith
I chwilio am wrthrych fy nghalon
Ar lennydd yr eigion maith.