Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/41

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Hwyr ydoedd, a thawel a difrif
Oedd Anian is llewyrch y lloer,
A thristwch oedd fel yn enhuddo
Pob gwrthrych â'i fantell oer:
Ac i waelod fy enaid innau
Treiddiai rhyw ddieithr fraw
Nes gwynnu fel calch fy ngruddiau,
A chrynnu fel deilen fy llaw.

Eto, i mi fy hunan,
Nis gallwn esbonio fy mraw,
Can's nid oedd ond hen gydnabod
A'm cwrddent ar bob llaw,—
Llethrau Cellfechan, a'r Gelli,
Lle ganwaith y bum yn hel cnau,
Y Graig Fawr, a'r hen Allt Goediog,
Ac aml i ardd a chae.

Y ceunant goruwch Hendre Mynach
A'i greigiau ysgythrog a ffrom—
Lle, lawer min nos yn y gwanwyn,
Y crwydrais à chalon drom
I geisio, yn arffed unigrwydd,
Orffwysdra i'm henaid blin,
Ac yng nghwmni Anian ddyhuddiant
Na chawn yn ffordd fy nghyd ddyn.

Y morfa a'i aml dwmpath
O forhesg a blethem ni gynt,
Y tywod, yn fil o dommenydd
Amrylun wrth fympwy y gwynt
A'r Mor, yr hen For, fy addysgydd
Yn blentyn, a'm cyfaill yn hŷn—
Y Môr, mor ddynol-newidiol,
Ac eto mor Ddwyfol yr UN!