Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/59

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ond rhaid fu mynd. Byth nid anghofia'r boreu
Y codais, wedi cysgu dim ond awr,
I gael fy hunan heb fy rhiant goreu—
O gystal a fuasai gen i'n awr,
Pe mai myfi a offrymasai angau
Gan mor ddyryslyd popeth ar y llawr;
Dy nerth allasai'n hir i eraill weini,
Fy nerth sy'n mynd mewn ameu ac ymboeni.

Dy ffydd, fy nhad, oedd wedi hir galedu
Yng ngwres a gwyntoedd bywyd, ond myfi
Adewaist mewn anwybod beth i'w gredu,
Nid oedd im gysgod dan dy gyffes di;
Rhy gyfyng oedd a thywyll im, bryd hynny,—
Ac eto adgas gan fy enaid i
Rewdir anffyddiaeth; felly er fy alaeth
Di-loches wyf yn niffaeth dir amheuaeth.

O llawer gwyllnos hoff y bum erioed,
Heb arall gwmni gennyf ond distawrwydd
Afonig, neu ysbrydiaeth ddwfn y coed,
Yn synfyfyrio'n bruddaidd ar ansierwydd
Popeth daearol—bywyd brau ac oed,
Ffrwyth wedi hau, gwynfyd ar ol enbydrwydd,
Byw'n iawn, pa beth sydd iawn, pa fodd cysoni
'R hyn ddylai fod a'r hyn sydd yn bodoli.

Mynych a dwys ddymunais, pan fy hun
Yn methu gweld trwy'r caddug erch ond cysgod
Dyfodol adfyd im a dyddiau blin,
Am iti ddod yn ol pe ond am ddiwrnod,
A'm cymryd eto'n blentyn ar dy lin,
I wneyd yn eglur i'm ddirgelwch hanfod,
A chymorth trwy'th oleuni o fyd arall
I farnu a chredu'n iawn, fy rheswm cibddall.