Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Ond ofer hyn. Nid oes o dan y ne
I'm llygaid i ond tw'llwch, tw'llwch, tw'llwch,
Yn ol a blaen, ar aswy ac ar dde,
Uwchben, islaw, dirgelwch ar ddirgelwch !
Minnau yn palfalu heb wybod i ba le
Y trofi ddisgwyl toriad gwawr diddanwch.
Ffarwel fy nhad! Os na chaf yma hedd,
Caf hynny fel cêst dithau, yn y bedd.