Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/66

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

'Nol mynych adduno cyfarfod drachefn,
A thyner gofleidio ein gilydd,
Rhaid fu dryllio rhwymau cymdeithas mor lefn,-
Byth, byth i gael profi ei heilfydd ;
Na, rhewynt yr angeu a wywodd cyn pryd
Flodeuyn fy serch, er ei hoffed,-
Glas heddyw'r dywarchen, a fferllyd y pridd
Amdoa y ferch o'r Frongaled.

O gwelw'r gwefusau oedd gynt fel y rhos,
Gusenais i ganwaith mor hoffus,
A thywyll yn angeu y drem ddisglaer dlos
Edrychai gynt arnaf mor serchus ;
Ac oeraidd falurio yng ngosteg yr yw
Mae'r galon a'm carai wresoced,
Ond eto yn eigion fy mynwes caiff fyw
Hoff ddelw y ferch o'r Frongaled.

1875.