Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/67

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Nos SADWRN Y GWEITHIWR.

Cyfieithiad o "The Cottar's Saturday Night" Burns.

Aiken, fy nghyfaill anwyl a pharchedig.
Nid un bardd cyflog sy'n dy warog di,
Elwa ar gân, ni fyn fy ngonest ddirmyg.
A chlod fy nghår yw'm hoffaf wobr i.
Mewn syml gred y canai'n awr i ti
Am feib dinodedd yn eu hisel ryw.
Am arwedd bur, a grym teimladau cu-
Am beth fai'm cyfaill pe mewn bwth yn byw,
Mwy dedwydd yno er o barch y byd a'i glyw.


TACHWEDD a'i oerwynt yn brochruddfan sydd,
A'r dydd byrhaus sydd bellach ar ddibennu;
Y wedd o'r cwysau lleidiog adre drydd,
A'r brain yn heidiau duol ant i'w gwely,
Y llesg fythynwr ddychwel at ei deulu-
Ei ludded wythnos heno gwblha-
Cynnull ei gaib, a'i raw, a'i gribyn chwynnu,
A thros y rhos tua'i gartre'n flin yr a
Gan feddwl am y saib a'r llonydd yno ga.

Ond dacw'i fwth unigaidd draw, dan gysgod
Hen goeden frigog; yno i blantos glân
Ymlwybrant am y cyntaf i'w gyfarfod,
Yn llon eu dwndwr megys adar mån.
Yr aelwyd ddel, ei gadair ger y tân,
Y baban ar ei lin, a darf yn lân
Ei flin ofalon ymaith, nes y gad
Dros gof ei ludded oll, yn llawnder ei fwynhad.

Toc daw'r plant hyna'i mewn, sy'n awr ar gyflog
Mewn ffermydd ogylch-un yn hwsmon sydd,
Arall yn fugail, arall, ffel a bywiog,
Red ar negesau'n chwyrn i'r dre bob dydd,
A'u hynaf anwes, Jenny deg ei grudd,