Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/68

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ym mlodau'i bri, a'i threm gan serch yn fyw,
Ddwg ei gown Sul i'w ddangos, neu a rydd
I'w mam ei dygn ennill mis, os yw
Ei rhiaint anwyl trwy galedi'n methu byw.

Yn frawd a chwaer llongalon y cydgwrddir,
A mawr yr holi am eu ffawd bob un;
Dont bawb a'u newydd allan, ac mor ddifyr,
Nad ystyr neb ehedfa'r awr ddihun,
Hoff sylla'u rhiaint arnynt, ac ar lun
Eu byw obeithion yn eu llygaid dedwydd;
Y fam a'i siswrn chwim a'i nodwydd, sy'n
Gwneyd i hen ddillad edrych bron fel newydd;
Y tad eneinia'r oll, â chyngor dwys neu rybydd.

Rhybuddia hwynt i wneyd beth bynnag bair
Meistr neu feistres iddynt, ac heb duchan;
Ac edrych at eu gorchwyl yn ddiwair,
Ac, er o'r golwg, beidio byth ystelcian,-
"Ac O! gofalwch ofni Duw ym mhobman,
A gwnewch yn iawn eich dyled nos a dydd,
Rhag cyfeiliorni'ch traed yn llwybrau Satan;
Ond deisyf ganddo, pwyll a nodded rydd-
Ni ddychwel neb yn wag a'i ceisia Ef trwy ffydd."

Ond ust! mae rhywun wrth y drws-da gŵyr
Jenny pwy yw-llanc o gymydog iddi
Ddaeth tros y waen ar neges braidd yn hwyr,
Ac o gymwynas eilw'n awr i'w chyrchu.
Y fam gyfrwysgall wel yn llygaid Jenny
Dân serch yn perlio, ac yn twymo'i grudd.
Gofynna'i enw, a chalon ddwys a difri-
Ofna'r fun ateb, ond anadla'n rhydd
Pan glywa'i mham nad yw lanc ofer a difudd.
Dwg Jenny ef i mewn, à chroesaw mwyngu;
Llathraidd y llanc, dên fryd y fam heb air.