Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/71

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

(Mor lon yw'r eneth nad oes neb yn gwgu!)
Ymgomia'r tad am wartheg, meirch, a gwair;
Gorlifa gan lawenydd galon aur
Y bachgen, fel nas gŵyr i ble y try,
Ond gwêl y fam o'r goreu beth a bair
Ei fod mor swil a sobr; boddlawn hi
Wrth feddwl fod ei merch fel eraill yn cael bri.

O ddedwydd serch, man caffer serch fel hwn!
O wynfyd calon! mwyniant heb ei ail!
'Nol troedio'n hir gylch einioes dan fy mhwn,
Mynn Profiad imi ddatgan-"Os oes cael
Un dracht o fwynder Gwynfa is yr haul,
Un llymaid byw, yn nhristyd anial dir,
Ceir hyn pan fo pâr ieuanc, ael wrth ael,
Yn gwylaidd sibrwd nerth eu cariad gwir,
Is blodau'r ddraenen wen, wna'n ber yr hwyrwynt ir."

A oes ar ddelw dyn, â chalon dyn,
Adyn, ddyhiryn, mor ddi-wir, mor greulon
All a'i ddichellion hudoledig cas, i'w wŷn,
Fradychu diniweidrwydd Jenny dirion?
Melldith byth ar ei stryw a'i anwir lwon!
Ai nid oes rhinwedd na chydwybod mwy?
Na dim tosturi, bwyntia'r ferch yng nghalon
Ei mham a'i thad-ddynoetha wedyn glwy
Y fun ddifwynwyd, a'u dyryswch enaid hwy?

Ond wele'r swper ar y bwrdd yn gweitied,-
Yr iachus uwd, pen ymborth Alban in,
A llaeth y frithen sydd tuhwnt i'r pared
Yn diddos gnoi ei chil; y rhian fynn
Ddwyn allan heno 'i darn o gosyn prin
O barch i'r llanc; a mawr ei chymell arno,
A mawr ei ganmol yntau; nes, ar hyn,