Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/72

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Nas gall hi dewi oed y cosyn wrtho,
"Dwy flwydd pan y bo'r ilin yn ei lawn flodau eto."

Eu swper llon ar ben, yn ddwys eu gweddau
Eisteddant oll yn gylch oddeutu'r tân;
Y tad, âg urddas patriarch, dry ddalennau
Y Beibl mawr, hoff lyfr ei dad o'i flaen;
Yn wylaidd dod o'r neilltu'i fonet wlân;
Llwm gwallt ei arlais mwy, a llwyd i gyd;
O'r odlau genid gynt yn Seion lân,
Dewisa ran yn bwyllog, ac, a'i fryd
Yn llawn difrifwch, medd,-"Addolwn Dduw ynghyd."

Eu syml fawl a gathlant dad a phlant,
A'u calon gweiriant uwch y byd a'i ferw;
Gall mai Dundee ymddyrcha'n wyllt ei thant,
Neu'r ddwys gwynfannus Martyrs, gwerth yr enw,
Neu Elgin bortha fflam y nefol ulw,-
Y fwynaf o fawl-odlau Alban dir,
Ger hon, chwibganau'r Eidal ynt ond salw,
Ond goglais clust, nid llesmair calon wir,
Ni chynghaneddant hwy à chlod ein Crewr pur.

Y tad-offeiriad draetha'r Gair dilyth,-
Fel ydoedd Abram gâr ei Arglwydd rhad;
Neu'r archodd Moses ryfel brwd dros byth
Yn erbyn Amalec a'i greulawn had;
Neu fel bu'r bardd brenhinol, am ei frad,
Yn ochain is dyrnodiau dial Duw ;
Neu gwyn deimladwy Job, o'i waew-nâd;
Neu dân seraffaidd Esay dderch, neu ryw
Lân broffwyd arall dantia'r santaidd delyn wiw.