Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/73

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ef all mai cyfrol Crist yw'r testun mawr,
Fel collwyd, tros yr euog, waed y gwirion;
Fel nad oedd yma le i roi ben i lawr,
Gan Un fawrygid Ail gan lu'r nefolion;
Ffyniant ei weision gynt, a'r doeth hyfforddion
Yrasant hwy i lawer gwlad a thref;
Neu fel y gwelodd alltud Patmos aflon
Gryf angel yn yr haul, a chlywodd lef
Uwch bryntni Babilon fawr, yn datgan barn y nef

O flaen yr orsedd wen ar ddeulin, yna
Y sant, y gŵr, a'r tad mewn gweddi ddaw;
Gobaith, ar orfoleddus edyn, wela
Ddydd pan gânt oll gydgwrddyd eto draw,
Yn llewyrch gwyneb Duw, heb mwyach fraw,
Nac ochain mwy, na cholli'r chwerw ddeigryn;
Ond yno'n gwmni, hoffach fyth rhagllaw,
I'w Crewr mawr gydganu eu moliant dillyn,
Tra Amser yn ei rod yn troelli mwy heb derfyn.

Wrth ochor hyn, mor salw balchder cred,
A'i chelfydd rwysg i gyd, lle dengys dynion
I'r lliaws cynulleidfa, ar lawn led,
Bob cain ddyhewyd ond dyhewyd calon;
Duw yn ei lid a edy eu rhith ddefodion,
Eu canu coeg, a'u gwisgoedd hyd y llawr;
Ond odid fawr y clyw-a'i fryd mor foddlon!-
Mewn bwthyn iaith yr enaid lawer awr,
A'u henwau gwael yn Llyfr y Bywyd ddod i lawr.

Pawb yna'u llwybr adref a gymerant
A'r bwthiaid bychain ânt i'w gorffwys le;
Y rhiant-bâr eu dirgel warog dalant,
A chynnes iawn eu cais am iddo E',
Sy'n gosteg beunydd nyth y gigfran gre',
Sy'n harddu eirian wisg y lili wen,-