Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/74

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn ol fel gwel E'n oreu, ddarbod lle
A lluniaeth iddynt hwy a'u plant di-senn,
Ac yn eu mynwes byth trwy ras deyrnasu'n ben.
Mawredd hen Alban dardda o'r ffynhonnau hyn,
A serch ei phlant, a pharch yr estron ati,-
"Dyn gonest yw gorchestwaith Duw ei hun,"
Ond brenin all â chwythiad greu arglwyddi;
Yn llwybr Rhinwedd dlos diau y gedy
Y Bwthyn draw o'i ol y Palas gwiw,
Rhwysg pwt o arglwydd-beth ond baich i'w boeni?
Baich gel yn aml warthyn dynol ryw,
Ystig a llwyr ei ddysg ymhob uffernawl 'stryw.

O Alban anwyl, bro fy ngenedigaeth.
Fy nhaeraf gais i Dduw sydd erot ti;
Bendithier fyth dy lewion feibion amaeth
Ag iechyd, heddwch, a boddlondeb cu;
A'u syml fuchedd, O gwarchoder hi
Rhag haint andwyol gloddest,-yna aed
Yn deilchion mân bob coron, urdd, a bri;
Ymgyfyd uniawn werin eto'n gâd,
A saif fel mur o dân o gylch eu hynys fâd.

Tydi arllwysaist gynt y gwladgar lif
Trwy eon galon Wallace, pan gyhyd
Y baidd yn deg wrth ymladd gormes hyf,
Neu fario'n deg ei nesaf gyfran ddrud
(Duw agos y gwladgarwr Di bob pryd,-
Ei ffrynd, ei nawdd, ei annog, ei foddhâd).
Rhag Alban byth, O, byth na chilia'th fryd,
Ond cyfod fwy y gwladgar ŵr diwâd,
A'r gwladgar fardd i fod,-addurn a grym eu gwlad.