Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/81

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

MARY, ANWYL MARY

MARY, anwyl Mary,
Mary, a wyt ti,
Tra 'rwy 'mhell, yn cofio
Weithia 'm danaf fi?
Wyt ti yn cysegru
Munud, ambell ddydd
I feddyliau serchog
Am dy gyfaill prudd?

Pan ar uchder mwyniant,
Feinwen deg dy lun,
Fyddi di 'n dymuno
Rhan o hono i un
Sydd yn gorfod teithio
Dyfnder gwaeau byd,
Heb un llewyrch cysur
I sirioli 'i bryd?

Pan ynghanol ffrindiau,
Yr ysgafna'th fron,
Pan ymdyrr dy nwyfiant
Mewn chwerthiniad llon,
Wyt ti weithiau 'n meddwl
Am y gwyneb llwyd
Unig, sydd a'i ddagrau
Beunydd iddo'n fwyd?

Pan wrth synfyfyrio
Rydd dy galon lam,
Gan ymdeimlad meddu
Cariad tyner fam?
Fuaist ti 'n tosturio
Wrth un nad oes mwy
Dad na mam i'w garu?
Huno er's talm maent hwy.