Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/82

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Hwyrach mai dy ateb
Fydd "Nac ydwyf ddim,"
Ac ni byddai hynny
Ond syndod bychan im;
Caru heb fy ngharu,
Cofio ffrindiau cu
Sydd yn fy anghofio-
Dyna 'm tynged i.

Eto credu 'r ydwyf
Nad yw'm calon i
'N curo'n gwbl ofer
Tuag atat ti,-
Fod yn gefn i'th eiriau
Mwynion, sylwedd serch,
Ac o dan dy wenau
Burdeb mynwes merch.

Mary, anwyl Mary,
Nid heb achos teg
'R ydwyf yn dy garu
'N fwy nag anian chweg,
Yn fwy na pherthynasau,
Brawd a chwiorydd mad,
Ac yn fwy nag adgof
Tyner fam a thad.

Nid dy gysylltiadau
Parchus yn y byd;
Nid dy olud teilwng
Sydd yn mynd a'm bryd,
Nid dy liw iforaidd,
Nid dy lendid gwedd,
Wnaeth i'm benderfynu
'Th garu hyd fy medd.