Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/83

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ac nid swyn dy lygad,
Dy loew lygad du,
Yn unig sy'n dy wneuthur
I fy mron mor gu,
Nodau heb ddim ystyr
Ydyw rhain i gyd,
Rhywbeth arall dyfnach
Sy'n eu gwneyd mor ddrud.
Calon, ie, calon,
Dyna 'n unig rydd
Ystyr i brydferthwch
Fel yr haul i'r dydd ;
Hebddi nid yw Helen
Er mor hardd, yn dlos;
Ac ofer cynnyg yn ei lle
Aur, na dysg, na moes.
Swyn dy galon dithau
Serch dy hoffus fron,
A'r tiriondeb chwardda
Yn dy wyneb llon,
D' allu i fod yn ddedwydd
Gan mor buraidd di,
A'th anghyffelybrwydd
Ymhob peth i mi,-
Hyn, a mwy, sy'n peri
Fod dy ddelw di
Bellach yn cartrefu
Yn fy nghalon i;
Nid dod yma wnaeth hi fel.
Y wennol ar ei thro,
Ond i nythu'n wastad
Fel aderyn to.