Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/85

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

BETH YW'R GYFAREDD.

BETH yw'r gyfaredd sydd
Fel breuddwyd nos a dydd,
Yn dwyn fy meddyliau prudd
Oddiwrth fy hunan?
Pam neidia'm calon gan
Lawenydd dieithr pan
Acenir enw Ann
I'm clust ar ddamwain?

Pam yr ymchwydda'm bron,
Megys terfysglyd don,
Tra'n syllu ar ddarlun hon
Ymhell yn Lloegr?
O Mary Ann, fy mun,
Mil haws im anghofio f'hun
Na byth im anghofio llun
Dy wyneb hawddgar.

Ond aethus im yw dw'yd,—
Fy mun nid mwyach wyd,
Ti decaf blentyn nwyd,
Er pob dymuno;
Arall sydd yn mwynhau
Weithian dy gwmni clau,
Arall yw'r un y mae
Dy galon arno.

Swynion hen ddyddiau fu,
Myrdd o adgofion cu,
Ac aml i drallod du,
Sydd wedi cysegru
Man puraf fy nghalon i
Yn annedd i'th ddelw di,
Nes, bellach, dy adgof sy
'N gyfran o honi.