Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/89

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

I FLODEUYN YR EIRA.

OFF flodeuyn! wiw flodeuyn!
Sy'n addurno bedd y flwyddyn,
Sydd yn nyfnder gauaf du
Mor ddyhuddol ac mor gu,
Yn dy symledd, lân lysieuyn,
Beth mor deg a thydi?
Wrth i'm syllu ar dy wynder,
Genir yn fy meddwl lawer
O freuddwydion prudd a thyner
Am ryw ddyddiau fu.

Peraroglai llawer blodyn
Euraidd oriau mis Mehefin,—
Hyd y dolydd breision, blydd,
Chwarddai llygad teg y dydd,
Gwenai'r friall, gwridai'r rhosyn
Gan mor gain ar y gwydd.
Ond fe'u gwywodd oerwynt Medi—
Nid oes mwyach ond dy dlysni
Di yn unig i sirioli
Gwyneb anian brudd.

Hoff flodeuyn! wiw flodeuyn!
Nid yw gwawr dy burdeb dillyn
I'm dychymyg ond arwyddlun
O ryw fenyw hawddgar fwyn
Lawn o synwyr, lawn o swyn,
Sydd a'i hysbryd fel aderyn,
Lion ei fron yn y llwyni,
Gan mor anwyl yw ei chwmni,
Gan mor gu ei chalon imi,
Nid wyf mwyach yn chwenychu
Byw, ond er ei mwyn!