Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/90

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gynt bu Ffawd yn siriol wenu
Ar fy mywyd, a phryd hynny
Aml ydoedd rhif cyfeillion;
Ond daeth rhew-wynt adfyd llym
Arna'i chwythu yn ei rym;
Yna profais chwerw loesion
Anffyddlondeb i'm-
Llawer cyfaill, megis blodau
Haf, o'm golwg a ddiflannai,-
Nid oedd adgof cymhwynasau
Mwy yn tycio dim.

Ond 'roedd imi un yn ffyddlon,
Un yn tywallt olew tirion
Ei thosturi ar fy mriw;
Un a chryfder enaid morwyn
Yn fy ngharu, ac yn fy nilyn
Fyth â'i chydymdeimlad gwiw;
Dyma'r pam 'rwyf yn ei charu,
Dyma'r pam y rhaid im wrthi,
Enaid enaid imi ydi
Mary Ann, fy mun.