Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/91

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

FORWYNIG LAN.

Y Siomedig-i'w Hen Gariad.

FORWYNIG lân, forwynig gu,
Forwynig ddirmygadwy, hefyd ;-
Er swyn a nerth dy lygaid du,
A theg osodiad dy wynepryd ;
Anwadal ydwyt fel y tarth
Sy 'n awr ar daen, ac yna 'n cilio ;
A chryf dy galon fel yr arth
Pan am ei chenaw mis yn chwilio.

Bu adeg pan y teimlwn i
Drydanol rym dy nefol wenau;
Bu adeg pan yn ddigon hy'
Yr ymgofleidiem a chusanau,
Bu adeg pan ddisgynnai trem
Dy lygaid serchog arnaf finnau
Yn dyner fel man wlith y nen
Wrth wlychu emrynt heirdd y blodau.

Bu adeg pan, yng ngwres ein serch
Y cyd-addunem fythol uniad,
Pan, gyda theimlad mynwes merch
Y mud-gyffeset rym dy gariad;
Do, do, fe fu, ond yn y man
Fe wgodd nefoedd fy ngobeithion,
Ac yna gwelais, Mary Ann,
Mor fyr yw bywyd addewidion.

Ond er prydferthwch balch y bryd,
A'r swyn gorchfygol yn dy lygad,
Ac er dy safle yn y byd,
A'th olud, a'th drahaus ymgodiad;
Cyn hir dy degwch ymaith ffy,
A'th gyfoeth all gymeryd aden,