Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/92

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ac yna, os heb rywbeth mwy,
Beth bortha dy drahâ uchelben?

Ac er mor ddistadl fy ngwedd,
Yn awr, mae hyn yn gysur imi,
Y gallaf finnau cyn fy medd
O'm dinod gyflwr fry ymgodi ;
Rwy'n teimlo nerth i fynd ymlaen,
Rwy'n gwybod grym ewyllys ddifeth,
A sicr wyf, er dŵr, er tân,
Ryw dro y mynnaf fod yn rhywbeth.
Ond er fy mod, tra ynnof chwyth,
Am ddringo'n uwch mewn cyfrifoldeb,
Nis gallaf fi ddymuno byth
Ddialedd am dy anffyddlondeb;
Cu iawn i'm henaid fuost ti,
A hoff dy ddelw eto imi,
Ac er mwyn adgof dyddiau fu
'Rwyf yn dwfn-erfyn llwyddiant iti.

1875.