Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/97

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

TI DDYWEDAIST.

Anerchiad i Mary.

I ddywedaist, fwynaf feinwen,
Dywedaist gynt å chalon lawen
Dy fod yn fy ngharu i
Gyda chariad dwfn a chry
Nad oedd arall is ffurfafen
I dy fynwes mor gu;
Dwedaist wrthyf trwy olygon
Mai myfi oedd perl dy galon,
Ac mai angel dy freuddwydion
Oeddwn i.

'Roeddwn, Mary, yn dy gredu,
Beth allaswn lai na hynny
Tra'r oedd tân dy lygaid du
Arna'i 'n tw'nnu 'n llon a chu,
Gan argoeli wrth belydru
Dwymed oedd dy enaid di;
Tra'r oedd serch fy mynwes innau
Yn cyfateb i'th un dithau,
Tra'r oedd ieuanc ein calonnau
Nwyfus ni?

Ond, anwylyd, a ddywedi
Fyth dy fod di yn fy ngharu,
Pan, fel tymhestl ganol dydd,
Y daw adfyd, ac y trydd
Oleu bywyd fel y fagddu;
Pan y gwelwa'm grudd
Gan wedd angeu yn dynesu,
Aml gyfaill arna'i 'n cefnu
Mwy, ac is fy mron yn brathu
Ofid cudd?