Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/98

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

O anwylyd, a ddywedi
Eto'th fod di yn fy ngharu,
Eto fod dy serch yr un,
Fyth mor anwyl, fel dy hun?
Duw yn unig ŵyr, ond credu
Raid i mi, fy mun,
Fod dy galon fel dy wyneb,
Fel dy swynion, fel dy burdeb,
Ac na ddetyd tragwyddoldeb
Ein cytûn.

1876.