Tudalen:Gwaith S.R.pdf/116

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dros y mynyddau yn lled agos erbyn nos. Bydd tipyn o leuad yn y dechreunos. Yr wyf fi mor gyfarwydd â llwybrau y mynyddoedd ag ydwyf â ffyrdd y gwaelodion. Y mae aderyn yn y llaw yn Hafod Hwntw yn werth dau yn y llwyn yn Nghilhaul." Ac ar hynny, trodd yr hen ŵr ben ei ferlyn broc caled tua'i gartref, a gyrrodd yn bur fywiog dros y ffriddoedd, ac ni welodd y baili mo'i wyneb caled sych garw byth mwyach.

Ymboenodd y steward a'i deulu lawer am i'r hen ŵr ddychwelyd felly heb iddynt gael ei weled; a danghosent eu nwydau drwg tuag at bawb o'u deutu mewn edrychiad, gair, a gweithred. Yr oedd colli pob gobaith am bridden yr hen guineas, ar ol unwaith glywed cymaint am dani, yn eu gwneyd yn beevish ofnadwy, ac yr oeddynt dros bob mesur o wenwynllyd wrth y baili. Aethant o'r diwedd mor gas wrtho nes y gwylltiodd yntau i'w natur ddrwg, a dyna fe â'i galon yn berwi, a'i wefusau mawrion yn crynnu, yn torri allan i ddweyd yn wyneb y steward a'i deulu,—

"Ni safaf fi mo hyn ddim yn hwy. Yr wyf fi wedi gwneyd fy ngoreu i chwi bob amser, a gwyddoch chwithau hynny yn bur dda. Y mae Cilhaul wedi costio i mi lawer iawn o ludded ac o ofid. Nid fy nghynllun i oedd cyrchu yr Herefords a'r Southdowns yma. Cyflawnais eich eirchion yn mhob dim yn y dull llawnaf a manylaf. Aethum yr holl ffordd i Hafod Hwntw fel yr oeddych wedi ceisio gennyf. Collais fy ffordd yn y niwl, a bu agos iawn i mi golli fy mywyd ar y mynydd wrth groesi Rhyd du Cors Rheidol. Yr oedd llif y nant yn bur wyllt, ac yn bur ddwfn, ar ol y gwlawogydd. Llwyddais i gael yr hen ddyn