Tudalen:Gwaith S.R.pdf/117

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i lawr yn ol eich dymuniad. Gwyddech yn burion yr amser yr oeddym i fod wrth y Cross Keys, a buasai yn hawdd iawn i chwi neu un o'ch meibion fod yno, neu wrth Gilhaul, i gyfarfod yr hen ŵr. Buasai yn rhyw foddhad i chwi eich bod wedi cael ei weled, er na buasai hynny o ddim lles yn y byd. Yr oedd yn ddigon eglur o'r foment gyntaf y daeth yr hen ŵr i olwg Cilhaul na wnai ymdroi dim yn ei gylch, ond y dychwelai yn unionsyth ar draws y bryniau cyn gynted ag y medrai tua'i hen Hafod Hwntw. Y mae yr hen ŵr, er ei fod yn gwisgo gwasgod gron, a byclau dyddiau Bess, yn bur graff a hirben, ac yr wyf yn gwbl sicr na buasai dau ddwsin o stewardiaid byth yn ei droi hanner chwarter modfedd o'i lwybr; a byddai yn hollol wallgofrwydd i ddisgwyl i un dyn yn ei bwyll, os bydd ganddo hanner gronyn o'r synwyr mwyaf cyffredin, gymeryd Cilhaul dan ei beichiau presennol."

"Wel, beth wnawn ni?" meddai'r steward, dan ollwng hir ochenaid allan o waelod ei galon. "Yr ydym ni wedi gwneyd cam trwm cas brwnt iawn â'r Carefuls. Yr wyf yn clywed eu bod hwy yn awr wedi prynnu section hyfryd o dir bras ffrwythlawn ar lan y Missouri."

"Ydynt, syr, y maent yn gwneyd yn rhagorol yno. Y mae ganddynt ffarm fawr ardderchog heb ddim beichiau i'w llwytho. Y maent yn cael yno y cnydau mwyaf godidog, heb brynnu na guano na dim arall, ac y maent yn awr ar brynnu y sections cysylltiedig â hi. Y maent i'w cael, a theitl y llywodraeth iddynt, am lai na chwe swllt y cyfair; ac y mae un o railffyrdd mawrion y gorllewin yn rhedeg yn awr drwy gwrr isaf eu tiroedd.'