Tudalen:Gwaith S.R.pdf/123

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

BYWYDAU DISTADL

IONAWR 18, 1850. MARY WILLIAMS, Garsiwn. Bu yn dra diwyd yn holl gynhulliadau yr eglwys drwy hir dymor ei haelodaeth; ac yr oedd yn hyfryd sylwi ar ei llygaid llawn pan y byddai yn gwrando "yr ymadrodd am y groes." Un o dlodion y tir ydoedd; ac wrth ei gweled weithiau yn y tes, ac weithiau yn y tywydd, yn cerdded o amgylch i geisio elusen, bu yn alar gennym lawer tro na buasai hyfforddiad boreuol wedi ei roddi i un o lygad mor graff i drin gardd lysiau gryno wrth ymyl ei bwthyn. Buasai yn hyfryd ei gweled yn gwrteithio, ac yn chwynnu, ac yn priddo ei gryniau; ac yn cynhaeafu camamil, chwerwlys lwyd, troed y dryw, cwmffre, dant y llew, cribau Sant Ffraid, y gemi goch, a llysiau rhinweddol eraill. Buasai rhyw wasanaeth bychan felly, nid yn unig yn elw i gymdeithas, ond yn ddifyrrwch i'w mheddwl, ac yn gymorth i'w myfyrdod a'i gweddi, drwy ei chadw o gymaedd lludded a phrofedigaethau rhodianna aflesol. Y mae llawer—oedd wedi treulio rhan fawr o'u dyddiau i gerdded o dŷ i dŷ, pan y gallasent, ond rhoddi eu dyfais ar waith, gael rhyw oruchwylion difyrrus a buddiol i'w cyflawni gartref. Y mae rhy fach yn cael ei wneyd gan flaenoriaid cymydogaethau i hyfforddi a gwobrwyo diwydrwydd ac ymdrech mewn pethau bychain.

Chwefror 1, 1850. THOMAS EVANS, Aber. Un isel "hawdd ei drin" ydoedd; distaw yn y teuluoedd lle y gweinyddai; o ymadrodd byrr sylweddol yn y gymdeithas grefyddol; ac o nerth taerineb anarferol mewn gweddi.