A'r lesg fam a wasgai ei dwyfron—o chwant
Cael myned i orwedd i'r un bedd a'i phlant.
Hoff geraint ysgarwyd, er cryfed eu bryd
Am weithio, dioddef, a marw ynghyd;
Y clymau anwylaf a dorrwyd bob un,
A rhwygwyd llinynnau y galon ei hun.
I greulawn ormeswr fy ngwerthu a wnaed,
I gael fy fflangellu o'm dwyfron i'm traed;
Mae'm llafur yn galed, a minnau yn wan,
Heb ddefnyn o gysur i'w gael o un man.
Mae'r bwyd roddir imi yn brin ac yn ddrwg,
Mae'r haul yn fy llosgi, mae popeth mewn gwg:
Dan oer wlith y ddunos rhaid cysgu, heb len;
O'r braidd y caf garreg i gynnal fy mhen.
Mewn ing rhaid im' farw, nis gallaf fyw'n hwy,
Mae'r holl gorff yn glwyfus, a'r galon yn ddwy;
O na chawswn drengu yn mynwes fy ngwlad,
Fy mhlant a fy mhriod, fy mam a fy nhad.
Wrth farw, fy ngweddi daer olaf a fydd,
I'r caeth o'i gadwynau gael myned yn rhydd:
Pa Gristion, heb deimlo ei galon mewn aeth,
All gofio du lafur ei frodyr sy'n gaeth?
O Brydain brydweddol! "Arglwyddes y donn,"
Na ad i un gaethlong ymrwygo drwy hon;
Cwyd Faner wen Rhyddid, nes gwawrio y dydd
I'r olaf gael dianc o'i gadwyn yn rhydd.
Tudalen:Gwaith S.R.pdf/39
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon