Tudalen:Gwaith S.R.pdf/61

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i lyfr y plwyf yn y festri nesaf, oblegid fod Squire Three X Tap yn bur hoff o Ned ac o'r bachgen hynaf, am fod y ddau mor barod i redeg gyda milgwn a bytheuaid y Squire bob tro y byddent yn dyfod y ffordd hynny. Ac ychwanegai Peggy fod y Squire wedi addaw troi i mewn i'r festri cyn ei diwedd i ddweyd gair drosom, a bod ei ddull a'i lais cry fyn sicr o fynnu gwrandawiad: ac awgrymai Peggy ymhellach i'r Squire, pan unwaith mewn diod, edrych yn bur fant-lon ar lygaid gleision Nansi ei merch, ac iddo sylwi ei bod yn tyfu yn lodes fawr lân gref dal dew brydferth, ac y gwnâi ef rywdro rywbeth i Nansi. Yr oedd wyneb Peggy yn gloewi ac yn llonni pan y siaradai fel hyn am y Squire ac am Nansi, ac am gael myned i lyfr y plwyf; ond gan ei bod yn eglur fod cwpwrdd Peggy y noson honno yn wag, dymunodd John Careful ar ei ferch hynaf roddi iddi gardod o flawd ceirch, digon i wneuthur swper da o uwd i'r teulu anghenus y noson honno. A dyna oedd pumed wobr Ffarmwr Careful am wella ei feusydd.

Yn lled hwyr y noson honno, ar ol oriau gweithio, galwodd Billy Active gyda Mr. Careful, a chyda gwedd drist isel, dywedodd wrtho ei fod allan o waith; fod ei hen feistr gofalus Fychan Graff o'r Ffarm Fawr wedi hollol wneyd ei feddwl i beidio cynnyg byth mwy am ddim "gwelliantau" er elw i bobl eraill. Yr oedd ef unwaith wedi meddwl a son llawer am sychu Dol y Brwyn, a chlirio y Wern Ddu, ac unioni gwrych y Ddol Gam, a rhannu y Ffridd Hir yn ddwy, a gwneyd ffordd newydd sych galed dda ar draws yr holl ffarm. Ond y mae wedi bod yn ystyried ac yn cyfrif y tâl a gawsoch chwi am eich holl