Tudalen:Gwaith S.R.pdf/62

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

welliantau, ac y mae wedi dysgu oddiwrth y cam a'r golled a gawsoch chwi y wers bwysig o beidio meddwl am ddim gwelliantau byth mwy. Y mae wedi cael argyhoeddiad trwyadl mai y ffordd oreu o lawer iddo ef ydyw gwneyd mor ychydig ag y medro, a gwneyd yr ychydig hynny yn y ffordd rataf ag y medro, fel yr hen ffarmwr distaw llonydd hirben Owen Dwl o'r Ffridd Groes. Ni wariodd Owen yr un chwecheiniog am na gwelliantau nac adgyweiriadau er's dros bymtheg mlynedd ar hugain; a'i ffarm ef y dydd heddyw ydyw y rataf yn yr holl gymydogaeth, ac wrth weled pethau fel hyn, y mae fy hen feistr Fychan Graff yn penderfynu gwario o hyn allan cyn lleied ag y medro ar y ffarm; ac y mae newydd fy ngollwng i, a'r dynion eraill oedd ganddo yn gweithio wrth y dydd, i'n ffordd;—ond yr oedd ei wyneb yn wyn, a'i lygad yn llawn, a'i wefus yn crynu, wrth ein gollwng ymaith. Y mae wedi addaw talu i ni gyflogau y chwarter diweddaf yn mhen pymthegnos; ac yr wyf yn deall fod amryw eraill o ffarmwyr yr ardaloedd hyn yn debyg o ddilyn ei siampl. Nid oes gennyf ddim golwg yn awr am gael gwaith, ac nis gallaf oddef meddwl am fyned ar y plwyf. Nid wyf yn hoff o'r ysmocio a'r yfed, a'r gwasanaeth afiach a budr sydd yn llawer o ardaloedd y gweithiau; ac mae fy ngwraig a minnau wedi gwneyd i fyny ein meddyliau i ymfudo ar unwaith i America ar ol ein cefnder Tomy Strong. Yr wyf newydd dderbyn llythyr annogaethol iawn oddiwrth Tomy. Costiodd y llythyr swllt i mi, er nad yw yn pwyso mo'r bumed ran o owns. Y mae Tomy, a phob un o'r bechgyn a'r merched a aethant gydag ef, yn gwneyd yn dda iawn yn America; ac yr ydym