Tudalen:Gwaith S.R.pdf/63

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ninnau yn penderfynu myned yno tra byddo gennym ddigon o fodd i fyned. Y mae gennym ddigon yn awr; o leiaf bydd gennym, ar ôl gwerthu hynny o ddodrefn sydd gennym, ddigon i'n cario ni ein dau, a'n tri phlentyn bach, i Wisconsin. Pe baem ni yn ymdroi ac yn oedi, ac aros yn segur yn y wlad yma nes i Betsy wella ar ôl y baban nesaf, mae'n bur debyg na byddai gennym ddim digon o fodd i fyned; ac felly yr ydym yn gwbl benderfynol i fyned yn awr ar unwaith. Y mae y rheilffyrdd a'r llongau yn cludo yn awr am brisiau pur resymol. Yr ydym am barotoi barilaid dda o fara ceirch ac ymenyn a chaws, a thipyn o gig moch, a phethau angenrheidiol felly, yn ddi-oed: a byddwn yn wir yn ddiolchgar iawn i chwi os rhoddwch fenthyg dwy bunt i ni am bymthegnos, pan y caf fy nghyflog i dalu yn ol i chwi; ac yna ni allwn brynu rhyw betheuach anhepgorol at y fordaith am arian parod, a bydd Betsy a minnau, os parhawn i gael ein hiechyd, yn sicr o wneyd yn dda yn America. Gwyddoch ein bod bob amser yn foddlon i weithio, a'n bod yn hoff o weithio, ac nad ydym byth yn ddedwydd os na bydd gennym ddigon o waith."

Methodd calon dyner John Careful wrthod cais Billy Active yn y fath wasgfa. Estynnodd iddo y benthyg gofynedig dan bron wylo wrth feddwl am golli teulu mor ddiwyd ac mor weithgar, mor garedig ac mor onest o'r ardal: a thyna y chweched wobr a gafodd Ffarmwr Careful am ei ludded a'i ofal a'i dreuliau wrth "wella" Cilhaul Uchaf.

Ar ol dwys fyfyrdod yn ei galon ar y pethau hyn ddydd a nos am lawer o wythnosau, teimlai