Tudalen:Gwaith S.R.pdf/76

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iawn gafodd y ffarmwyr bron o hyd o hynny hyd heddyw. Llai nag a feddyliech chwi o'r tenantiaid goreu sydd wedi gallu cael dim cyflog am eu llafur, chwaethach llog am eu heiddo. Y mae miloedd obonynt wedi rhoddi nerth eu dyddiau goreu i'w meistradoedd am flynyddoedd lawer am ddim ond eu bwyd; ïe, y maent yn dlotach o lawer yn awr ar ol eu holl ofal, a'u holl lafur, nag oeddynt ddeng mlynedd at hugain yn ol. Y mae yr arglwyddi tiroedd yn eu diraddio ac yn eu trin fel caethion. Y maent yn meddwl ei bod yn fraint iddynt lafurio am ddim er eu cynnal hwy; ac y maent yn cydymgyngreirio i gadw i fyny renti hen ddyddiau Boni er cynnal i fyny rwysg a rhysedd gwallgofrwydd y dyddiau hynny. Goreu i ni, yn wir, po gyntaf yr awn i'r America. Nid oes dim golwg am ddyddiau gwell yma. Yr ydych chwi yn lled adnabyddus o amgylchiadau y rhan fwyaf o ffarmwyr yr ardaloedd hyn. Yr wyf fi yn barnu, yn ol pob hanes, fod y serfs yn Russia, er caethed ydynt, wedi ennill mwy yn y deugain mlynedd diweddaf nag a enillodd y rhan fwyaf o denantiaid ucheldiroedd Cymru. Onid ydych chwi wedi cyfaddef lawer gwaith mai gwanychu yn raddol y maent o hyd, er eu holl ymdrech, er's dros ddeunaw mlynedd ar hugain. Os ydyw gwersi hanesion byrion fy hen lyfr ysgol i yn gywir, y maent yn trin tenantiaid y wlad yma yn awr yn yr un modd yn union ag y dywedir fod barwniaid Russia yn trin eu caeth—denantiaid. Y mae llawer o etifeddiaethau llydain yn cael eu trin yng Nghymru yn awr yn yr un dull yn union ag yr oedd arglwyddi gloddestgar Rhufain yn trin eu hetifeddiaethau yn mlynyddoedd olaf adfeiliad eu hymerodraeth. Gwyddoch yn burion fel y mae y