Tudalen:Gwaith S.R.pdf/75

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhyngddynt. Ni waeth ganddynt yn y byd pwy a wasgant, na pha faint a wasgant ar y sawl a gânt dan eu hawdurdod, am y cânt hwy y geiniog uchaf rywfodd. Y mae llaweroedd o honynt, drwy eu dylni, a'u gwastraff, a'u gorthrymder, wedi bron andwyo eu hetifeddiaethau, ac wedi rhedeg i ddyled dros eu pennau; ac y maent, er gwasgu a chribddeilio, bron yn methu cael dau pen y llinyn yn nghyd. Y mae eraill o honynt yn ddigon cyfoethog; ond nid oes ganddynt na chalon na challineb i ddim ond i wasgu a gor thrymu. Dyna yr hen Lady V. o Garth Tafwys. Y mae yn graig o arian, ond y mae yn ddraig o greulondeb tuag at ei thenantiaid. Bu ganddi yn fy nghof i saith o denantiaid ar y ffarm fwyaf sydd ganddi; a darfu iddi bron andwyo eu teuluoedd. A gwyddoch fod amryw o ffermydd goreu y General Malden yn awr ar ei law. Bu amryw amaethwyr craffus, cryfion, yn eu golwg; ond y mae yr hen General, er ei fod yn colli cannoedd arnynt bob blwyddyn, yn rhy gyndyn i'w gosod am renti, ac ar amodau ag y gellir byw arnynt, a thalu am danynt. A dyna ein hen gymydogion H. H., a B. W., a D. D. E., y rhai a gydnabyddir fel y ffarmwyr goreu yn yr holl wlad, wedi llwyr benderfynu rhoddi eu ffermydd i fyny Wyl Fair nesaf; ac y mae eu meistr hwy yn cael ei ystyried yn un lled deg a rhesymol: a rhywbeth tebyg ydyw bron yn mhobman. Y gwir yw, dyrysodd rhwysg rhyfel dyddiau gogoniant yr hen Boni wŷr mawr ein gwlad; cawsant flas y pryd hynny ar renti uchel, ac ymchwyddasant i fyw yn wastraffus ar y rhenti hynny; ac y maent hyd heddyw heb ddysgu, neu yn hytrach heb geisio dysgu, cael pethau i'w lle. Amserau caled