Tudalen:Gwaith S.R.pdf/94

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

profiadol, am esbonio i'r tenantiaid wahanol ganghennau amaethyddiaeth, y buasai hynny yn ateb dibenion gwerthfawr, ond cynnal y cyfarfodydd mewn lleoedd cyfleus, ac ar adegau priodol. Ond dylai y darlithydd fod yn ddyn ymarferol yn gystal ag yn ddyn dysgedig; a dylai fod ganddo ddigon o dymer dda, ac o amynedd gwr boneddig, i gymeryd ei holi a'i groesholi gan yr hen Ffarmwr Grey, a'r ffarmwr ieuanc ymchwilgar Dicky Price, yn niwedd pob darlith, gyda golwg ar draul a holl gysylltiadau eraill y gwelliantau a fyddai y darlithydd am gynnyg i sylw y tenantiaid. Oblegid yr wyf fi yn credu, my lord, fod llaweroedd o'r scriblwyr barfog Llundeinaidd fu'n ysgrifennu yn ddiweddar i'r newyddiaduron ynghylch gwelliantau amaethyddol llechweddi a rhosydd Cymru wedi gwneuthur cam mawr â thenantiaid craffus ac ymdrechgar. Y mae yn ddigon hawdd gwybod mai ar ol cinio go fras, a diod go gref, yr oedd y scriblwyr barfog hynny yn dychymygu eu cynlluniau, ac yn gwneyd i fyny eu cyfrifon; ond nis gwn i ddim nad oedd rhyw grach—arglwydd go anghenog yn talu am eu cinio, er cael tipyn o logic cockney y papyr newydd yn esgus dros ei waith yn codi rhenti afresymol. Hoffwn i yn fawr iawn gael newid lle ag un o'r scriblwyr gwalltog hynny am dair blynedd. Cai ef ffarmio ochrau Cilhaul Uchaf, ac eisteddwn innau wrth ei ddesc yntau i gadw y cyfrifon. Yr wyf fi yn wir awyddus, my lord, am welliantau. Y mae yr oes yma yn oes am welliantau, a diwygiadau, a dyfeisiau. Gellir dichon ddyfod o hyd i egwyddorion a chynlluniau ag a all fod o les mawr i ffarmwyr. Nid oes gennyf fi ddim cydymdeimlad â'r ffarmwyr musgrell