Tudalen:Gwaith S.R.pdf/93

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ein bod ni, arglwyddi tiroedd, wedi bod yn llawer rhy esgeulus o ddyledswyddau blaenaf cylchoedd pwysig ein sefyllfa gymdeithasol; a bod hynny wedi bod yn golled fawr i ni ein hunain, yn gystal ag i eraill. Y mae arglwyddi y gweithiau haearn yn gwybod maint a nerth a thraul eu ffwrneisiau. Y mae arglwyddi y mwnau yn gwybod hanes traul a chynnyrch eu cloddfeydd. Y mae y manufacturers yn dyfal ymgais o hyd am berffeithio eu peiriannau. Y mae y masnachwr yn astudio yn barhaus y dulliau goreu i drefnu cistau a shelffydd a byrddau gwerthu ei fasnachdy. Y mae y marsiandwr yn gwybod yn dda am dunelliad ei longau:—ond nid ydym ni, y meistri tiroedd, wedi rhoddi bron ddim o'n meddwl erioed ar gyfansoddiad gwrtaith, nac ar drefniad lleoedd tomennau, nac ydlanau, na chyfansoddiad cutiau, nac ysguboriau, nallaethdai, na ffyrnau, na ffyrdd, na ffosydd, na gwrychoedd, na buarthau, na nemawr o ddim o gyfleusderau ein ffarmdai; ac y mae yr esgeulusdra cywilyddus yma wedi bod yn achos o golledion trymion i ni ein hunain, ac i'n tenantiaid. Ond yn wir, yr wyf fi o hyn allan yn bwriadu talu mwy o sylw i'r pethau hyn."

"Wel, yn wir, my lord, y mae yn dda iawn genyf fi eich clywed chwi yn dywedyd hynny, oblegid yr wyf yn gwybod y bydd eich sylw a'ch cyngor a'ch cefnogiad chwi yn sicr o fod o les anrhaethol i'ch tenantiaid a'u teuluoedd, ac yn elw mawr hefyd i'ch etifeddiaeth yn ei holl gysylltiadau. Bum i yn meddwl lawer gwaith, my lord, pe buasai perchenogion etifeddiaethau llydain fel eich un chwi, ac un Marshall Victor, ac un Countess Southland, ac un Duke Northland, yn cyduno i dalu i ddarlithydd dawnus, dysgedig,