Tudalen:Gwaith Sion Cent.pdf/13

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

SION CENT.

NID rhyfedd i gymaint amryfusedd godi ynglyn a Sion Cent, gan fod mwy na dau o'r un enw yn byw yn yr un cyfnod. O un agwedd, yr enwocaf o honynt oedd y brawd llwyd Sion Cent, neu Sion Gwent —ugeinfed geidwad ei urdd yn nhalaeth Caer Odor. Bu hwn yn ddarllenydd duwinyddiaeth yn Rhydychen; yr oedd yn ddoethawr brifysgol; "gwnaeth amryw wyrthiau drwy ystod ei fywyd, a gorwedd efe yn Henffordd"—felly cofnoda hanesion y Brodyr Llwydion ei fywyd. Hunodd tua 1348. Nid hwn oedd y bardd, ac nid oes yr un prawf gennym fod i'r bardd radd doethawr yn y brifysgol.

Ganed y bardd tua 1323, ac yn ol traddodiad yn Abertridwr lle dangosir yr ystafell y ganed ef ynddi. Cododd toreth o hanesion—"traddodiadau"—am dano. Hwyrach y gwelwn yn y rhain ddylanwad "gwyrthiau" y brawd llwyd o'r un enw. Efallai mai efe gafodd ei eni yn Abertridwr, a hwyrach y ganed y bardd ar lan Gwy. Ym Mhentyrch, dywedir, y cafodd ei addysg, gan ei ewythr—Dafydd Ddu Hiraddug (o Ewias?)—yr hwn a drigai yno.

Fodd bynnag ymunodd a'r myneich gwynion, y Sistertiaid, ym Mwstwr Gras Duw, ar gyffiniau eithaf Gwent. Ar gais Roger Cradog