Tudalen:Gwaith Sion Cent.pdf/14

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Esgob Llandaf (1361-1382) urddwyd ef yn is- ddiacon ac yn ddiacon gan Lewis Charlton, Esgob Henffordd ar Wyl y Pasg, 1366, ym Mosbury, fel un o fyneich Gras Duw.

Ar y Sadwrn cyn y Nadolig yn yr un flwyddyn cafodd urdd offeiriad gan yr un esgob ym Mromyard. Rhoddwyd gofal eneidiau Cent iddo. Felly cafodd gyfeillgarwch teulu Scudamor, ac o hyn tarddodd yr holl dybiau parthed ef ac Owen Glyndŵr. Hunodd tua'r flwyddyn 1420, a gorffwys yn eglwys Cent.

Perthyn barddoniaeth Sion Cent i fudiad ledaenodd drwy orllewin Ewrop ac hyd gyrrau eithaf y Werdd Ynys. Nid Sion yw yr unig fardd Cymreig roddodd fynegiant i'r yspryd hwn. Saif ymhlith y blaenaf o feirdd y mudiad —y cyffro addfedodd yn ol llaw yn y Diwygiad elwir yn Brotestanaidd. Y mae dau agwedd i'w gweled yn ei waith. Yn gyntaf y Piwritan," cyn cynllunio'r gair. Dymunal alw ar bawb i fyw felly ger bron y Goruchaf, fel y caffent fynediad helaeth i fewn i "Fwstwr Ion." Gan hynny, traethai ar destynau cref. yddol a "phrotestiai " yn erbyn pechodau a gwendidau ei oes. Ond os ceisiai argyhoeddi, nac anghofiwn fod llef gwanobaith Cymru a'i dyheadau yn adsain yn y cywyddau—llet gweledydd yn erbyn gormes a thraha yr arglwydd a'r eglwyswr. Hiraethai, gobeithaw, addaw ydoedd y goreu i'r blaenaf nasiwn o gwmpas" a fu erioed mewn gras, a dydd pan tyddai Cymru fawr yn rhydd. Yr oedd ymhlith y rhai utganodd gyntaf, os nad y cyntaf, yr alwad i'r deffro arweiniodd Glyndŵr. Nid rhyfedd i'r ysgolhaig ynddo hiraethu am "yr hen wyr gynt." Yr oedd yn ddi-ameu yn