Tudalen:Gwaith Thomas Griffiths CyK.pdf/4

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mi welais yn y boreu
I roddi arno 'mhwys,
Yngwyneb bod dan ddedfryd
Ac argyhoeddiad dwys,
Un cadarn a digonol,
Un addas imi'n wir,—
Ennillodd ef fy nghalon
I orphwys arno'n glir.

Mi gysgaf hun yn dawel
Ar fyr yn ngwaelod bedd,
I ddisgwyl am fy Marnwr
Ag udgorn i roi llef;
Ac yna mi gyfodaf
I gwrdd a'm Harglwydd mawr,
Yn dyfod ar y cwmmwi
I farnu'r dyrfa fawr.

Bydd yno'r fath ryfeddod
Na welodd dyn erioed,
Er pan y crewyd Adda
I'r olaf ddyn gaiff fod;
Y dyrfa yn gwahanu,
Pob un i'w le ei hun,
A ninnau yn cael gwledda
Yn nghwmni Mab y dyn.

IV.

Yma 'rwyf mewn anial maith,
Iesu tirion,
Dan fy nghlwyfau lawer gwaith
Gan elynion ;
Rhof fy ngofal arnat ti,
Nes del angeu,
Yna derbyn fenaid i
I dy freichiau.